![]() |
||||||||
Taster Workshops Art Taster Sessions - Screenprinting with Sarah Hopkins Rhagflas ar Gelfyddydau - Argraffu â Sgrîn gyda Sarah Hopkins Bishop Gore Comprehensive School |
|
|
Year 10 and 11 The purpose of this day was to cater to the needs of individual students, each having developed a series of ideas to take to print. Every student was prepared with sketches and designs, and managed to maximise the time allocated to experiment with the process and complete a finished piece of artwork. Those students who
had previous experience of the process supplied ready-prepared chine
collé sheets and managed to achieve a range of finished pieces
as a result. Those who had never screenprinted before achieved excellent
results nonetheless; they enjoyed experimenting with a new medium onto
paper and fabric and saw the endless possibilities of developing their
work further. I enjoyed the workshop
and experimenting with colour. I thought my work
turned out really well. I wish we’d had more time to do more printmaking
because I liked it so much … it will go towards my coursework. I enjoyed creating
prints on fabric and paper because I’ve not done this before.
Although, I wish we’d had more time. I enjoyed the day and had
good pieces of work to go towards my GCSE coursework. I really enjoyed
the workshop and thought it was great to try something new. I was very
pleased with my prints and would love to do it again. I have learnt skills
and techniques that I can use in Year 11 for GCSE Art. It was a good opportunity
to work with an artist and use a different medium.
Blynyddoedd 10 ac 11 Nod y diwrnod hwn oedd darparu ar gyfer anghenion myfyrwyr unigol, a phob un ohonynt wedi datblygu cyfres o syniadau i'w printio. Roedd pob myfyriwr wedi paratoi drwy dynnu lluniau a dyluniadau ac wedi llwyddo i wneud y gorau o'r amser dynodedig i arbrofi gyda'r broses a chwblhau darn gorffenedig o waith celf. Roedd y myfyrwyr
hynny a oedd wedi cael profiad blaenorol o'r broses wedi darparu taflenni
chine collé wedi'u paratoi ac o ganlyniad wedi llwyddo i gyflawni
amrywiaeth o ddarnau gorffenedig. Cafodd y rheiny nad oedd wedi sgrîn-brintio
yn flaenorol ganlyniadau gwych er hyn; roeddent wedi mwynhau arbrofi
gyda chyfrwng newydd ar bapur a ffabrig ac wedi gweld y posibiliadau
diddiwedd o ddatblygu eu gwaith ymhellach. Mwynheais y gweithdy
ac arbrofi gyda lliw. Roeddwn yn hapus
iawn gyda fy ngwaith terfynol. Byddai wedi bod yn braf cael mwy o amser
i wneud mwy o sgrîn-brintio achos roeddwn yn ei fwynhau gymaint...
caiff ei gynnwys yn fy ngwaith cwrs. Roeddwn i wedi mwynhau
creu printiau ar ffabrig a phapur achos dydw i ddim wedi gwneud hynny
o'r blaen. Er, byddai wedi bod yn braf cael mwy o amser. Mwynheais y
diwrnod a chefais ddarnau da o waith i'w cynnwys yn fy ngwaith cwrs
TGAU. Mwynheais y gweithdy'n
fawr iawn ac roedd yn wych rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Roeddwn i'n
hapus iawn gyda fy mhrintiau a byddwn i wrth fy modd yn gwneud y cyfan
eto. Rydw i wedi dysgu
sgiliau a thechnegau y byddaf yn gallu eu defnyddio ym Mlwyddyn 11 ar
gyfer TGAU Celf. Roedd yn gyfle da
i weithio gydag artist a defnyddio cyfrwng gwahanol.
|
|
Sarah Hopkins - Bishop Gore 1 |
Sarah Hopkins - Bishop Gore 2 |
Sarah Hopkins - Bishop Gore 3 |
Sarah Hopkins - Bishop Gore 4 |
Sarah Hopkins - Bishop Gore 5 |
Sarah Hopkins - Bishop Gore 6 |
Sarah Hopkins - Bishop Gore 7 |
Sarah Hopkins - Bishop Gore 8 |